*WELSH VERSION – PLEASE SCROLL DOWN FOR ENGLISH*
Mae Bryson Recycling am benodi:
Arweinydd Tîm Ailddefnyddio
(Cyf: R/TL/W/25)
Parhaol
35 awr yr wythnos
9am – 5pm
£23,241.00 y flwyddyn
Ymunwch â’n Tîm!
Fel Arweinydd y Tîm Ailddefnyddio, byddwch yn arwain y gwaith bob dydd yn ein siopau Dewiswch Ailddefnyddio, gan sicrhau bod y nwyddau a dderbynnir yn cael eu prosesu, eu prisio a’u gwerthu’n effeithiol. Byddwch yn arwain tîm o staff a gwirfoddolwyr, gan roi arweiniad, cymorth, a hyfforddiant iddynt fel y gallant gynnig gwasanaeth i gwsmeriaid, cyflwyno cynnyrch, a sicrhau effeithlonrwydd gweithredol o’r safon uchaf. Bydd eich arweiniad yn sicrhau bod y siop yn cynhyrchu’r refeniw mwyaf posibl ac yn lleihau gwastraff. Bydd hyn yn golygu gall ein menter gymdeithasol, rhan o Bryson Charitable Group, gefnogi mentrau cymdeithasol sy’n helpu cymunedau lleol i ddatblygu a thyfu tra’n hybu manteision amgylcheddol ailddefnyddio. Byddwch yn gweithio yn ein siop ym Mochdre a bydd yn ofynnol i chi weithio yn ein siop yn y Rhyl unwaith yr wythnos.
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd adwerthu neu wasanaeth i gwsmeriaid, yn ddelfrydol mewn lleoliad adwerthu elusennol neu ail law.
- TGAU Gradd C mewn Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth.
- Gwybodaeth am weithrediadau adwerthu, gan gynnwys rheoli stoc, trin arian parod, a systemau pwynt talu.
- Gwybodaeth sylfaenol am reoliadau iechyd a diogelwch, a’r gallu i sicrhau bod y siop yn gweithredu mewn ffordd ddiogel ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
- Gallu i gynnig hyfforddiant a chymorth i wirfoddolwyr ac aelodau’r tîm, a meithrin amgylchedd cydweithredol a chynhyrchiol.
- Hyblygrwydd i weithio goramser, yn ôl yr angen.
- Bydd yn ofynnol i weithio yn ein siop yn y Rhyl unwaith yr wythnos.
Meini Prawf Dymunol
- Profiad blaenorol mewn rôl oruchwyliol neu arweiniol, gan gynnwys rheoli timau o staff neu wirfoddolwyr.
- Byddai unrhyw gymwysterau perthnasol ym maes rheoli adwerthu, cydlynu gwirfoddolwyr, neu yn y sector elusennol, yn fanteisiol.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw:
Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025 am hanner dydd (12.00pm)
Sylwer, rydym yn cadw’r hawl i roi’r gorau i dderbyn ceisiadau cyn y dyddiad cau
Gwybodaeth Ychwanegol: Ymgeisiwch Heddiw!
Galw: (028) 9084 8494 Lawrlwythwch becyn cais neu gwnewch gaisEbost: recruit@brysongroup.org ar-lein: https://bryson.getgotjobs.co.uk/home
*ENGLISH VERSION*
Bryson Recycling requires:
Reuse Team Leader
(Ref: R/TL/W/25)
Permanent
35 hours per week
9am – 5pm
£23,241.00 per annum
Join our Team!
As the Reuse Team Leader, you will lead the day-to-day operations of our Choose to Reuse shops, ensuring the efficient processing, pricing, and selling of donated goods. You will lead a team of staff and volunteers, providing guidance, support, and training to enable them to deliver the highest standards of customer service, product presentation, and operational efficiency. Your leadership will drive the success of the shop by maximising revenue and reducing waste. This will enable our social enterprise, part of the Bryson Charitable Group, to support social initiatives that help local communities develop and grow while promoting the environmental benefits of reuse. You will be based at our Mochdre shop and required to work at our Rhyl shop once a week.
Essential Criteria
- Proven experience in a retail or customer service environment, preferably within a charity or second- hand retail setting.
- Grade C in Maths and English GCSE or equivalent.
- Knowledge of retail operations, including stock control, cash handling, and point-of-sale systems.
- Basic knowledge of health and safety regulations, with the ability to ensure the shop operates in a safe and compliant manner.
- Ability to provide training and support to volunteers and team members, fostering a collaborative and productive environment.
- Flexibility to work overtime, as required. Required to work at our Rhyl site once a week.
Desirable Criteria
- Previous experience in a supervisory or leadership role, including managing teams of staff or volunteers.
- Any relevant qualifications in retail management, volunteer coordination, or charity sector work would be an advantage.
Closing date for receipt of completed applications is:
Tuesday 18th March 2025 at 12noon
Please note, we reserve the right to close this role early.
Further Information: Apply Today!
Call (028) 9084 8494 Download an application pack or apply online:
Email: recruit@brysongroup.org https://bryson.getgotjobs.co.uk/home