(Cyf: R/RSA/W/26)
Pwrpas y Swydd:
Fel Cynorthwyydd Siop Ailddefnyddio, byddwch yn cael profiad hollol newydd ac ystyrlon o’r sector adwerthu. Bob diwrnod, byddwch yn chwarae rhan hanfodol i achub eitemau a fyddai fel arall yn cael eu dinistrio, gan ddod o hyd i bwrpas a gwerth newydd iddynt. Trwy dderbyn cyfraniadau, eu paratoi i’w gwerthu, a rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, byddwch yn darparu gwasanaeth hanfodol i’r gymuned leol.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn gwybod fod popeth rydych yn ei wneud yn cyfrannu’n uniongyrchol i godi arian at elusen – gan wneud bob diwrnod yn werth chweil.
Parhaol | Dydd Gwener – dydd Sul | Mochdre (Cymru)
21 awr yr wythnos | 9:00 AM – 5:00 PM
£12.40 yr awr (Telir yn wythnosol – bydd eich waled yn hoffi hynny!)
Ymunwch â’r Tîm Gwyrdd!
Fel Cynorthwyydd Siop Ailddefnyddio, byddwch yn cael profiad hollol newydd ac ystyrlon o’r sector adwerthu. Bob diwrnod, byddwch yn chwarae rhan hanfodol i achub eitemau a fyddai fel arall yn cael eu dinistrio, gan ddod o hyd i bwrpas a gwerth newydd iddynt. Trwy dderbyn cyfraniadau, eu paratoi i’w gwerthu, a rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, byddwch yn darparu gwasanaeth hanfodol i’r gymuned leol.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn gwybod fod popeth rydych yn ei wneud yn cyfrannu’n uniongyrchol i godi arian at elusen – gan wneud bob diwrnod yn werth chweil.
Eich nodweddion personol:
- Profiad o weithio mewn swydd rheng-flaen gyda chwsmeriaid
- TGAU Mathemateg a Saesneg, neu gymwysterau cyfatebol
- Hyblygrwydd i weithio goramser, yn ôl yr angen
- Gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau yn y warws, gan gynnwys codi a chario
Pwyntiau Bonws os oes gennych y nodweddion canlynol:
- Gwybodaeth am nwyddau ail law, uwchgylchu, neu arferion ailddefnyddio
Pwy ydych chi?
- Mae gennych ddiddordeb go iawn mewn cynaliadwyedd, ailddefnyddio, a chyfrifoldeb amgylcheddol
- Mae gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf a’r gallu i gyfathrebu’n glir ac yn broffesiynol
- Mae gennych y gallu i feithrin perthynas waith dda gydag amrywiaeth eang o gwsmeriaid a chydweithwyr
- Rydych yn ddibynadwy, yn brydlon, ac yn teimlo’n gyfforddus i weithio’n annibynnol neu fel aelod o dîm bach
Dyddiad cau i ymgeisio:
Y dyddiad cau yw dydd Llun, 8 Rhagfyr, am 12 o’r gloch (hanner dydd)!Sylwer: Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi’r gorau i dderbyn ceisiadau yn fuan os byddwn yn dod o hyd i’r ymgeisydd cywir – felly peidiwch ag oedi!